Robat Arwyn

Cerddor | Cyfansoddwr | Cyfarwyddwr Cerdd

Robat Arwyn
Bytholwyrdd
Bytholwyrdd
CD i ddathlu pen-blwydd Côr Rhuthun yn 30 oed efo sawl cyfansoddiad gan Robat Arwyn - yn cynnwys Anfonaf Angel, Yfory a Mae'r Sêr yn Canu. (Label Sain)
Cliciwch yma i weld perfformiad o Anfonaf Angel ar YouTube.
Adre'n Ol
Adre'n Ol
Gwaith comisiwn newydd ar gyfer cystadleuaeth y corau cymysg yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru 2011. Geiriau a cherddoriaeth gan Robat Arwyn. Cyfieithiad Saesneg (Homeward Bound) gan Aled Lloyd Davies.
(Copïau o Swyddfa CFfI Cymru 01982 553502)
Tri Tenor Cymru
Tri Tenor Cymru
CD cyntaf Tri Tenor Cymru - Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys Jenkins. Mae'r CD yn cynnwys y gân Ave Maria (Maddau i Mi) - geiriau a cherddoriaeth gan Robat Arwyn.
(Label Sain)
Cliciwch yma i weld perfformiad o Ave Maria ar YouTube.
Taro Deuddeg
Taro Deuddeg
Casgliad o ddeuddeg hwiangerdd; y geiriau o waith Cefin Roberts. Maent yn amrywio o ganeuon i lais unigol a phiano, eraill yn ddeuawdau ac un neu ddwy yn bedwar llais. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn, Einion Dafydd ac Annette Bryn Parri.
(Gwasg y Bwthyn)
Yn Dy Gwmni Di
Yn dy gwmni di
Casgliad o 6 chân ar y thema cariad ar gyfer dau, dri neu bedwar llais. Mae'r casgliad yn cynnwys Anfonaf Angel a recordiwyd gan Bryn Terfel.
(Cyhoeddiadau Sain)
Anfonaf Angel
Anfonaf Angel
CD newydd i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru. Bryn Terfel a Chôrdydd yn canu Anfonaf Angel allan o Yn dy gwmni di. Geiriau gan Hywel Gwynfryn.

Ar gael i'w phrynu am £3.99 neu i'w lawrlwytho o Sain.

Wyth Cân - Pedair Sioe
Unawdau Sioeau
Rhyddhawyd y gyfrol Wyth Cân - Pedair Sioe gan Y Lolfa. Mae'n cwmpasu unawdau allan o bedair o sioeau cerdd Robat Arwyn - Rhys a Meinir, Iarlles y Ffynnon, Plas Du, a Pwy Bia'r Gân?. Mae'r caneuon yn cynnwys geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd ab Owain.
(Y Lolfa)
CD Ffrindiau
Agnus Dei
Ar eu CD newydd, Ffrindiau, mae Sian ac Emyr Gibson ynghyd â Bryn Terfel yn perfformio trefniant newydd o'r Agnus Dei allan o Er Hwylio'r Haul.
I glywed darn ...
CD Bryn Terfel
Bryn Terfel at his very best
CD o 36 o ganeuon a recordiwyd gan Bryn Terfel dros y blynyddoedd diwethaf ac yn cynnwys 4 o ganeuon Robat Arwyn - Benedictus, Brenin y Sêr, Atgof o'r Sêr, a Seren y Gogledd.
Mark Evans
Ar gyfer Mark Evans
Cyfansoddwyd Dal y Freuddwyd i Mark Evans (Your Country Needs You) ar gyfer rhaglen yng nghyfres newydd Noson Lawen ar S4C.
Ave Verum
Gwaith Corawl
Ave Verum Corpus ar gyfer Côr Meibion Caernarfon er cof am gyn-aelod, Robert Edward (Bob) Roberts.
The Priests' CD
The Priests
CD ryddhawyd ar label Sony yn 2008 gan dri Offeiriad Pabyddol Gwyddelig. Mae'r CD yn cynnwys Benedictus allan o Er Hwylio'r Haul ac aeth i rif un yn y siartiau clasurol yn America a Phrydain ac i'r 10 uchaf yn y siartiau cyffredinol ar draws y byd.
© 2011 Robat Arwyn
Gwefan gan Mari Wynne Jones

11529