Robat Arwyn

Cerddor | Cyfansoddwr | Cyfarwyddwr Cerdd

Twitter YouTube Facebook Spotify

Dyma ddetholiad o rai llyfrau sy'n cynnwys caneuon gan Robat Arwyn. Os am brynu un, cysylltwch â'ch siop Gymraeg leol neu â'r cyhoeddwyr (Y Lolfa, Sain a Curiad).

Atgof o'r Sêr
Cadwyn o ganeuon i gôr SATB ac unawdwyr Bariton a Soprano a gomisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2001 ar gyfer Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun. Mae'r casgliad yn cyfeirio at arwyddocâd goleuni seren Bethlehem, at y sêr fel delwedd o gariad ac uchelgais, ac at arferiad rhai i ddarllen y sêr. (Cyfeiliant piano)
  • 1. A gwnaeth y Sêr
  • 2. Brenin y Sêr
  • 3. Seren y Bore
  • 4. Sêr y Nadolig

Cyhoeddwr : Curiad

  • 5. Atgof o'r Sêr
  • 6. Yn Llygad y Llew
  • 7. Seren y Gogledd
  • 8. Mae'r Sêr yn Canu
Cân y Ddraig

Llyfr o ganeuon i blant.

Cyhoeddwr : Curiad

Er hwylio'r haul
Comisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol 2005 ar gyfer Bryn Terfel, Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod. Yn goffadwriaeth i Llywelyn ap Gruffydd a lofruddiwyd yn 1282, mae'r gwaith yn plethu nifer o ddarnau corawl o'r Offeren Babyddol (fel y Lux Aeterna, Agnus Dei ac eraill mewn Lladin) gyda sawl unawd, deuawd a darn corawl yn Gymraeg. (Cyfeiliant piano)

Mae'n cynnwys fersiwn i gôr SATB a dau unawdydd o'r Benedictus a recordiwyd gan The Priests a chan Bryn Terfel a Rhys Meirion, yn ogystal â'r brif gân, Er hwylio'r haul a recordiwyd gan Ysgol Glanaethwy.

  • 1. Y Llyw Olaf
  • 2. Kyrie
  • 3. Y Freuddwyd Fawr
  • 4. Dan Lygad y Lloer
  • 5. Sanctus
  • 6. Yn fy nwylo nawr
  • 7. Pie Jesu
  • 8. Benedictus

Cyhoeddwr : Curiad

  • 9. Y deall sy' rhwng dau
  • 10. Dilynwn Di
  • 11. Ar goll
  • 12. Agnus Dei
  • 13. Gyda thi
  • 14. Y Llyw Olaf (ail-adrodd)
  • 15. Lux Aeterna
  • 16. Er hwylio'r haul
Er Mwyn Yfory

Sioe gerdd gan Derec Williams, Penri Roberts a Robat Arwyn, wedi ei lleoli yn ystod Rhyfel y Degwm. Fe'i pherfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cylch, Y Bala, 1997.

Cyhoeddwr : Y Lolfa

Gwin Beaujolais

Dwsin o ganeuon Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain.

Cyhoeddwr : Y Lolfa

Hanes creu popeth yn y byd

Cyfanwaith a gomisiynwyd gan Wyl Gerdd Llanelwy ac a berfformiwyd yng Nghadeirlan Llanelwy ym Medi 2019 gan Gôr Rhuthun, Côr Cytgan Clwyd, Côr Ysgol Pen Barras a Gwenan Mars Lloyd. Mae'r gwaith yn cynnwys darnau i gorau SATB, partïon cymysg, deulais neu unsain ac unawd.

Cyhoeddwr : Curiad

Hwn Yw Fy Mrawd

Cyfrol o 17 o ganeuon amrywiol, addas ar gyfer unawdwyr a chorau. Caneuon cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2018, sy’n darlunio bywyd yr actor a’r canwr, Paul Robeson, a’i gysylltiad cryf â Chymru. Awdur y libreto yw Mererid Hopwood, a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn.

Cyhoeddwr : Sain

Iarlles y Ffynnon

Sioe gerdd i blant ysgolion cynradd gan Robin Llwyd ab Owain a Robat Arwyn. Fe'i pherfformiwyd gyntaf yn Theatr Gwynedd yn 1996 gan blant Ysgol Gynradd Glan Cegin, Maesgeirchen. Mae'r gyfrol yn cynnwys yr 8 cân a'r sgript lawn.

Cyhoeddwr : Y Lolfa

Miwsig y Misoedd

Casgliad o ganeuon gan Robat Arwyn a'r geiriau gan ei fam, Enid Jones. Maent yn dilyn trywydd y flwyddyn o'r Calan hyd at y Nadolig.

Cyhoeddwr : Y Lolfa

O'r Sioe

Casgliad o ganeuon o sioeau cerdd amrywiol gan nifer o gyfansoddwyr, yn cynnwys Yfory a'i Gyfaredd allan o'r sioe Rhys a Meinir gan Robin Llwyd ab Owain a Robat Arwyn.

Cyhoeddwr : Curiad

Stori'r Preseb

Cylch o ganeuon am y Nadolig.

Cyhoeddwr : Y Lolfa

Taro Deuddeg

Casgliad o 12 hwiangerdd newydd. Geiriau gan Cefin Roberts a'r gerddoriaeth gan Robat Arwyn, Einion Dafydd ac Annette Bryn Parri.

Cyhoeddwr : Gwasg y Bwthyn

Unawdau 2000

Pedair unawd gan Eirian Williams, Rhys Jones, Sioned Lloyd Williams a Robat Arwyn, wedi eu comisiynu gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Cyhoeddwr : Curiad

Wyth Cân, Pedair Sioe

Cyfrol o unawdau allan o rai o sioeau cerdd Robat Arwyn. Geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd ab Owain.

Cyhoeddwr : Y Lolfa

Yn Dy Gwmni Di

Casgliad o ganeuon o waith comisiwn Ysgol Dyffryn Nantlle. Yn cynnwys yr unawd Anfonaf Angel.

Cyhoeddwr : Sain