Mae Robat Arwyn wedi cyhoeddi deg cyfrol o ganeuon, nifer o ddarnau corawl unigol a naw sioe gerdd, gan gynnwys Er Mwyn Yfory a Plas Du.
Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei gomisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Radio Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, yn ogystal â Chôr Meibion Cymry Llundain, Bois y Castell, Côr Seiriol ac eraill.
Atgof o'r Sêr oedd gwaith comisiwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001 ac fe'i ysgrifennwyd ar gyfer Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun a'r Cylch. Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 perfformiwyd Er Hwylio'r Haul, gwaith comisiwn ar gyfer Bryn Terfel, Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod.
Ymysg ei weithiau diweddaraf mae'r cywaith o chwe chân, Yn dy gwmni di, a gyfansoddodd ar gyfer ei hen ysgol, sef Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes. Perfformiwyd y gwaith ym mis Rhagfyr 2008 gan ddisgyblion o'r ysgol gydag ymddangosiad arbennig gan Bryn Terfel. Hefyd fe'i gomisiynwyd i gyfansoddi cylch o dair o ganeuon, Heddiw, ddoe, yfory,ar gyfer Côr Cardi-Gân a pherfformiwyd y gwaith yn ystod haf 2008.