Robat Arwyn

Cerddor | Cyfansoddwr | Cyfarwyddwr Cerdd

Twitter YouTube Facebook Spotify
Y Ddwy Chwaer

Sioe Gerdd Gwta – 3 cân comisiwn mewn datblygiad gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn yn dathlu cyfraniad Gwendoline a Margaret Davies, Gregynog i fywyd diwylliannol Cymru. Perfformiwyd y caneuon gan Mared Williams, John Ieuan Jones a Celyn Cartwright yn ystod Eisteddfod Amgen yn Awst 2020. Comisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ewffoniwm

Darn comisiwn ar gyfer Gareth Trott, tiwtor ewffoniwm yng Ngholeg Cerdd Llunain a phrif chwaraewr ewffoniwm gyda Band y Gwarchodlu Gwyddelig.

Ave Maria

Comisiwn ar gyfer Ensemble Sottovoce - pedwarawd Ffrengig sy'n dathlu ei ben blwydd yn 10 oed eleni. Maent eisoes wedi perfformio Benedictus, Agnus Dei ac Adre'n ôl yn eu cyngherddau.

2020-2021

  • Ave Maria - comisiwn ar gyfer Sottovoce, pedwarawd Ffrengig, sy'n dathlu ei ben blwydd yn 10 oed yn 2021.

  • Darn comisiwn ar gyfer Gareth Trott, tiwtor ewffoniwm yng Ngholeg Cerdd Llunain a phrif chwaraewr ewffoniwm gyda Band y Gwarchodlu Gwyddelig

  • Y Ddwy Chwaer - comisiwn o dair cân i'r Eisteddfod Genedlaethol

  • Nodau'r gân - darn comisiwn i ddathlu 20fed penblwydd Côr Persain yn 2020. Geiriau gan Beryl Owen.
2019-2020

  • Tua'r Wawr - Darn i delyn ar gyfer Llywelyn Ifan Jones

  • Trefniant TTB o Geiriau Gwag allan o Er Mwyn Yfory i Eryrod Meirion

  • Pan fo'r geiriau wedi gorffen. Cân newydd i John Ieuan Jones. Geiriau gan Mererid Hopwood
2018-2019

  • Hanes creu popeth yn y byd! - cadwyn o 7 cân i Gôr Ysgol Pen Barras, Côr Cytgan Clwyd, Côr Rhuthun a Gwenan Mars Lloyd. Comisiwn Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2019. Geiriau gan Mererid Hopwood.

  • Llais yn cyffwrdd lleisiau - anthem i Gôr Cymry Gogledd America. Geiriau gan Mererid Hopwood.

  • Arwain, arwain finnau - darn SATB i Gantorion Coity. Geiriau gan Beryl Thomas.

  • Miwsig beth bynnag ddaw - darn SSA i Gôr Merched Edeyrnion. Geiriau gan Mererid Hopwood.

  • Gyrru drot i'r dre (seiliedig ar hen rigymau) - darn SATB i Gôr Cytgan Clwyd
2017-2018

  • Hwn yw fy Mrawd - gwaith comisiwm Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Geiriau gan Mererid Hopwood.

    17 o ganeuon yn darlunio bywyd yr actor a'r canwr, Paul Robeson, a'i gysylltiad cryf â Chymru.

    Perfformiwyd gan Bryn Terfel, John Ieuan Jones, Elain Llwyd, Mared Williams, Elin Llwyd, Steffan Prys Roberts, Steffan Cennydd, Côr yr Eisteddfod ac unigolion o ysgolion ardal Caerdydd.

2016-2017

  • Llwybrau - darn i'r cello ar gyfer Steffan Morris - comisiwn gan Wyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru

  • Roedd yn y wlad honno (Gloria in Excelsis) - Côr Meibion Trelawnyd

  • Dy Hanner Di o'r Byd - Côr Cofnod. Geiriau gan Karen Owen.

  • Lleisiau Mewn Cynghanedd - Côr Lleisiau'r Cwm. Geiriau gan Tudur Dylan.

  • Canu yn ein Gwaed - Côr Meibion Bro Aled. Geiriau gan Rhys Dafis.

  • Conemara Meirionydd - cynnyrch gweithdai cyfansoddi gyda disgyblion Ysgol Bro Tryweryn, Y Bala. Geiriau gan Myrddin ap Dafydd

  • Sion a Sian (geiriau traddodiadol) - Côr Cytgan Clwyd
2014-2016

  • I am the Song - The City of Chester Male Voice Choir. Geiriau gan Charles Causley.

  • Diamonds that shine in the night - The Chester Ladies Choir. Geiriau Robat Arwyn.

  • Dyma gariad fel y moroedd - Côr Meibion Bro Aled. Geiriau gan Gwilym Hiraethog.

  • Mae'r awel yn ein huno - @ebol. Geiriau gan Tudur Dylan.

  • Ger y Lli - Côr Ger y Lli. Geiriau gan Eirug Salisbury.

  • Anthem o Lawenhad - Cantorion Rhos. Geiriau gan Sian Freer.

  • Cân yr adar yn y gwynt - Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Geiriau gan Tudur Dylan.

  • Ffydd Gobaith Cariad - Eisteddfod yr Urdd 2014. Geiriau o'r Ysgrythur.