Robat Arwyn

Cerddor | Cyfansoddwr | Cyfarwyddwr Cerdd

Robat Arwyn
Active Music Services
Gellir archebu darnau cerddoriaeth Curiad o AMS. Cliciwch ar logo AMS i fynd i'w gwefan.
Benedictus
Fersiwn SATB, TTBB, SSAA a deulais o'r Benedictus a recordiwyd yn ddiweddar gan The Priests a Bryn Terfel a Rhys Meirion. (Cyfeiliant piano)

- allan o Er Hwylio'r Haul

Curiad 3137 (SATB)
Curiad 4134 (TTBB)
Curiad 2033 (SSAA)
Curiad 9033 (Deulais)

Agnus Dei (Oen Duw)
Trefniant TTBB a Deulais o'r Agnus Dei allan o Er hwylio'r haul. (Cyfeiliant piano)

Curiad 4138 (TTBB)
Curiad 9034 (Deulais)

Lux Aeterna (Bythol Olau)
Trefniant TTBB o'r Lux Aeterna allan o Er hwylio'r haul. (Digyfeiliant)

Curiad 4137 (TTBB)

A gwnaeth y sêr
Gosodiad SATB neu TTBB o adnodau allan o Genesis. (Cyfeiliant piano)

- allan o Atgof o'r Sêr

Curiad 3104 (SATB)
Curiad 4114 (TTBB)

Brenin y sêr
Fersiwn SATB (gyda neu heb unawdydd) o'r gân a recordiwyd gan Bryn Terfel a Chôr Rhuthun ar eiriau Robin Llwyd ab Owain. (Cyfeiliant piano)

- allan o Atgof o'r Sêr

Curiad 3135 (SATB)

Bugeilio'r Gwenith Gwyn
Trefniant SATB o gân werin draddodiadol o Gymru. (Cyfeiliant piano)

Curiad 3050 (SATB)

Cerdded hyd y llethrau
Gosodiad SSA o eiriau Glyn Roberts ar gyfer canmlwyddiant Ysgol Dyffryn Nantlle ym Medi 1998. (Cyfeiliant piano)

Curiad 2026 (SSA)

Clodforaf Di
Gosodiad SSA yn seiliedig ar Salm 18. (Cyfeiliant piano)

Curiad 2018 (SSA)

Dyrchafaf fy llygaid (Salm 121)
Gosodiad SATB i Gôr Rhuthun o Salm 121. (Cyfeiliant piano)

Curiad 3040 (SATB)

Pedair Oed/Mae'r gân yn ein huno
Trefniant SATB (gyda neu heb unawdydd) o Pedair Oed a recordiwyd gan Rhys Meirion a Chôr Rhuthun. Hefyd, trefniant tenor a soprano o Mae'r gân yn ein huno a recordiwyd gan Rhys Meirion a Fflur Wyn. Geiriau'r ddwy gân gan Robin Llwyd ab Owain. (Cyfeiliant piano)

Sioni Wynwns
Gosodiad SATB o gerdd Dic Jones. (Cyfeiliant piano)

Curiad 3116 (SATB)

Atgof o'r Sêr
Cadwyn o ganeuon i gôr SATB ac unawdwyr Bariton a Soprano a gomisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2001 ar gyfer Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun. Mae'r casgliad yn cyfeirio at arwyddocâd goleuni seren Bethlehem, at y sêr fel delwedd o gariad ac uchelgais, ac at arferiad rhai i ddarllen y sêr. (Cyfeiliant piano)
  • 1. A gwnaeth y Sêr
  • 2. Brenin y Sêr
  • 3. Seren y Bore
  • 4. Sêr y Nadolig
  • 5. Atgof o'r Sêr
  • 6. Yn Llygad y Llew
  • 7. Seren y Gogledd
  • 8. Mae'r Sêr yn Canu
Er hwylio'r haul
Comisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol 2005 ar gyfer Bryn Terfel, Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod. Yn goffadwriaeth i Llywelyn ap Gruffydd a lofruddiwyd yn 1282, mae'r gwaith yn plethu nifer o ddarnau corawl o'r Offeren Babyddol (fel y Lux Aeterna, Agnus Dei ac eraill mewn Lladin) gyda sawl unawd, deuawd a darn corawl yn Gymraeg. (Cyfeiliant piano)

Mae'n cynnwys fersiwn i gôr SATB a dau unawdydd o'r Benedictus a recordiwyd gan The Priests a chan Bryn Terfel a Rhys Meirion, yn ogystal â'r brif gân, Er hwylio'r haul a recordiwyd gan Ysgol Glanaethwy.

  • 1. Y Llyw Olaf
  • 2. Kyrie
  • 3. Y Freuddwyd Fawr
  • 4. Dan Lygad y Lloer
  • 5. Sanctus
  • 6. Yn fy nwylo nawr
  • 7. Pie Jesu
  • 8. Benedictus
  • 9. Y deall sy' rhwng dau
  • 10. Dilynwn Di
  • 11. Ar goll
  • 12. Agnus Dei
  • 13. Gyda thi
  • 14. Y Llyw Olaf (ail-adrodd)
  • 15. Lux Aeterna
  • 16. Er hwylio'r haul
© 2011 Robat Arwyn
Gwefan gan Mari Wynne Jones