Dyma ddetholiad o rai llyfrau sy'n cynnwys caneuon gan Robat Arwyn. Os am brynu un, cysylltwch â'ch siop Gymraeg leol neu â'r cyhoeddwyr (Y Lolfa neu Curiad).
Llyfr | Teitl | Disgrifiad | Cyhoeddwr | ![]() | Atgof o'r Sêr | Caneuon i gôr SATB a dau unawdydd (Baritone a Soprano). | Curiad | ![]() | Cân y Ddraig | Llyfr o ganeuon i blant. | Curiad | ![]() | Er Hwylio'r Haul | Caneuon i gôr SATB a dau unawdydd (Baritone a Soprano). | Curiad | ![]() | Er Mwyn Yfory | Sioe gerdd gan Derec Williams, Penri Roberts a Robat Arwyn, wedi ei lleoli yn ystod Rhyfel y Degwm. Fe'i pherfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cylch, Y Bala, 1997. | Y Lolfa | ![]() | Gwin Beaujolais | Dwsin o ganeuon Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain. | Y Lolfa | ![]() | Iarlles y Ffynnon | Sioe gerdd i blant ysgolion cynradd gan Robin Llwyd ab Owain a Robat Arwyn. Fe'i pherfformiwyd gyntaf yn Theatr Gwynedd yn 1996 gan blant Ysgol Gynradd Glan Cegin, Maesgeirchen. Mae'r gyfrol yn cynnwys yr 8 cân a'r sgript llawn. | Y Lolfa | ![]() | Miwsig y Misoedd | Casgliad o ganeuon gan Robat Arwyn a'r geiriau gan ei fam, Enid Jones. Maent yn dilyn trywydd y flwyddyn o'r Calan hyd at y Nadolig. | Y Lolfa | ![]() | O'r Sioe | Casgliad o ganeuon o sioeau cerdd amrywiol gan nifer o gyfansoddwyr, yn cynnwys Yfory a'i Gyfaredd allan o'r sioe Rhys a Meinir gan Robin Llwyd ab Owain a Robat Arwyn. | Curiad | ![]() | Stori'r Preseb | Cylch o ganeuon am y Nadolig. | Y Lolfa | ![]() | Taro Deuddeg | Casgliad o 12 hwiangerdd newydd. Geiriau gan Cefin Roberts a'r gerddoriaeth gan Robat Arwyn, Einion Dafydd ac Annette Bryn Parri. | Gwasg y Bwthyn | ![]() | Unawdau 2000 | Pedair unawd gan Eirian Williams, Rhys Jones, Sioned Lloyd Williams a Robat Arwyn, wedi eu comisiynu gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru. | Curiad | ![]() | Wyth Cân, Pedair Sioe | Cyfrol o unawdau allan o rai o sioeau cerdd Robat Arwyn. Geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd ab Owain. | Y Lolfa | ![]() | Yn Dy Gwmni Di | Casgliad o ganeuon o waith comisiwn Ysgol Dyffryn Nantlle. Yn cynnwys yr unawd 'Anfonaf Angel'. | Sain |
---|