Robat Arwyn

Cerddor | Cyfansoddwr | Cyfarwyddwr Cerdd

Twitter YouTube Facebook Spotify

Yn enedigol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, graddiodd Robat Arwyn mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1980 cyn ennill Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Bu'n Brif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych am dros ugain mlynedd ac mae bellach wedi ymddeol i ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar gerddoriaeth. Mae'n byw yn Rhuthun gyda'i wraig, Mari ac mae ganddynt ddau o blant, Elan a Guto, sydd bellach yn oedolion!

Mae'n aelod o Gôr Rhuthun ers 1981, ac yn cyfeilio i'r côr a chyfansoddi ar ei gyfer ers 1987. Wedi marwolaeth Morfydd Vaughan Evans, sefydlydd ac arweinydd y côr, yn 2007, cymerodd Arwyn yr awenau.

Bu hefyd yn aelod o Trisgell rhwng 1982 ac 1995. Triawd a ffurfiodd gyda dau ffrind oedd yn canu wrth ei ochr yn rhengoedd y baswyr yng Nghôr Rhuthun, sef Arwyn Vaughan a Llion Wyn.

Cyhoeddodd Robat Arwyn 13 cyfrol o ganeuon, nifer o ddarnau corawl unigol a naw sioe gerdd, gan gynnwys Er Mwyn Yfory a Plas Du.

Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei gomisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Radio Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, yn ogystal â Chôr Meibion Cymry Llundain, Bois y Castell, Côr Seiriol ac eraill.

Atgof o'r Sêr oedd gwaith comisiwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001 ac fe'i ysgrifennwyd ar gyfer Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun. Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 perfformiwyd Er Hwylio'r Haul, gwaith comisiwn ar gyfer Bryn Terfel, Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni, bydd perfformiad cyntaf o'i waith Hwn yw fy Mrawd, beiopic o fywyd yr actor a’r canwr, Paul Robeson a’i gysylltiad cryf â Chymru, ac unwaith eto, Syr Bryn Terfel fydd yn cymryd y brif ran.

Mae ei gomisiynau diweddar yn cynnwys Hanes creu popeth yn y byd!, geiriau gan Mererid Hopwood. Gwaith comisiwn gan Wyl Gerdd Gogledd Cymru ar gyfer Côr Rhuthun, Côr Cytgan Clwyd a Chôr Ysgol Pen Barras; Pan fo geiriau wedi gorffen ar gyfer John Ieuan Jones; Lle mae llais yn cyffwrdd lleisiau cân gomisiwn gan Gôr Cymry America.

Bydd yn teithio led led Cymru yn cynnal nosweithiau Y Gair Tu Ôl i'r Gân, sy'n gyfuniad o sgwrs a chyngerdd. Yn ystod y nosweithiau bydd yn perfformio nifer o'i ganeuon adnabyddus, gan gynnwys Yfory, Anfonaf Angel a Benedictus.

Bydd yn cyflwyno cyfres arall o gerddoriaeth amrywiol ar Radio Cymru ar foreau Sul yn yr hydref.