Robat Arwyn

English

Sioeau

Dyma restr o'r sioeau cerdd yn nhrefn yr wyddor. Nodir os ydynt ar gael mewn llyfr neu ar CD. Am fwy o fanylion ewch i'r dudalen berthnasol trwy glicio'r linc Prynu ar y chwith.

SioeManylionCDLlyfr
Ceidwad y GannwyllSioe Gerdd Ieuenctid Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl 1985. Cyd-gyfansoddiad gyda Sioned Williams. Geiriau a sgript - Robin Llwyd ab Owain.--
Eiddo CesarSioe Gerdd Gynradd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Rhuthun 1992. Cyd-gyfansoddiad gydag Eirian Williams. Geiriau a sgript - Geraint Llwyd Owain.--
Er Mwyn YforySioe Gerdd Ieuenctid Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1997. Geiriau a sgript - Penri Roberts a Derec Williams.Er Mwyn YforyEr Mwyn Yfory
GarmonSioe Gerdd Uwchradd Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1991. Geiriau a sgript - Jane Owen.--
Iarlles y FfynnonComisiwn gan Gyngor Sir Gwynedd. Perfformiwyd gan ddisgyblion Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, Chwefror 1996. Geiriau a sgript - Robin Llwyd ab Owain.-Iarlles y Ffynnon
IrmenioSioe Gerdd Gynradd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 1994. Geiriau a sgript - Ann Llwyd.--
Plas DuComisiynwyd gan Radio Cymru. Perfformiad cyntaf Hydref 2002 gan ieuenctid ysgolion uwchradd Gwynedd. Ail berfformiad Sioe Uwchradd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2006. Geiriau a sgript - Hywel Gwynfryn. Cysyllter â'r cyfansoddwr am gopiau.--
Pwy Bia'r GânComisiynwyd gan Adran y Gymraeg, Cyngor Sir Ddinbych a'i pherfformio gan blant Blynyddoedd 5 a 6 ysgolion dalgylch Rhuthun yn Hydref 2003. Geiriau a sgript - Robin Llwyd ab Owain. Cysyllter â'r cyfansoddwr am gopiau.--
Rhys a MeinirPerfformiwyd gan Gwmni Theatr ardal Rhuthun yn 1987. Geiriau a sgript - Robin Llwyd ab Owain.--